Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
3 Gorffennaf 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5671
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gofynnwyd cwestiynau 2-10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd cwestiynau 1-2, 4-5 a 7-9. Tynnwyd cwestiynnau 3 a 6 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am bythefnos y Cwmnïau Cydweithredol, sy’n digwydd rhwng 24 Mehefin a 7 Gorffennaf.
GwnaethMike Hedges ddatganiad am 50 mlynedd ers gwneud Abertawe yn ddinas.
Gwnaeth John Griffiths ddatganiad yn dathlu Gŵyl Maendy (6 Gorffennaf), sef gorymdaith aml-ddiwylliannol a diwrnod cyfan o ddathlu diwylliant amrywiol, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, bwyd a diod sy’n gyfle i ddwyn gwahanol gymunedau at ei gilydd a dileu rhwystrau.
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7102 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am berfformiad gwael neu anniogel;
b) sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru;
c) gosod dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr; a
d) sefydlu system gwyno ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
1 |
21 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig.
Am 15.36, gyda chaniatâd y Dirprwy Lywydd, gwnaeth Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad byr heb rybudd am y ddamwain angheuol yn gynharach heddiw, pan fu farw dau weithiwr rheilffordd ar ôl cael eu taro gan drên yn cludo teithwyr rhwng gorsaf Parkway Port Talbot a gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr. Ni wahoddodd y Dirprwy Lywydd unrhyw Aelodau i ofyn cwestiynau am y datganiad.
Dechreuodd yr eitem am 15.38
NDM7108 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mai 2019.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Mehefin 2019. Gosodwyd ymateb Trafnidiaeth Cymru ar 17 Mehefin 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.27
NDM7112 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Ebrill 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cododd Hefin David bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.10. Nid oedd o’r farn bod Michelle Brown wedi tynnu ei datganiad yn ôl pan ofynnodd y Dirprwy Lywydd iddi wneud hynny. Roedd hefyd yn pryderu nad oedd cyfraniad Michelle Brown yn adlewyrchu barn y Pwyllgor, ac nad oedd yr Aelod yn gwrando pan oedd Cadeirydd y Pwyllgor yn ymateb i’w phwyntiau.
Dywedodd y Dirprwy Lywydd fod pryderon yr Aelod wedi’u cofnodi, a bod gan Aelodau hawl i ddefnyddio eu hamser yn ystod dadleuon i wneud cyfraniadau fel y maent yn tybio sydd orau. Dywedodd y Dirprwy Lywydd hefyd nad oedd am ddechrau galw Aelodau i drefn pan nad ydynt yn gwrando.
Dechreuodd yr eitem am 17.21
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio..
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7110 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg;
b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.
2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid.
3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith;
b) datblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol;
c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
d) cyhoeddi amserlen, ar frys, ar gyfer datblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
27 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant1 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth ar ôl is-bwynt 4a a rhoi yn ei le:
bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
0 |
17 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM7110 Darren Millar (Clwyd West)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg;
b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid.
3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith;
b) bwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
d) parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
3 |
6 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7111 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth.
2. Yn cydnabod bod llwyddiant y strategaeth yn ddibynnol, yn rhannol, ar:
a) creu mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle yn ogystal ag yn y gymuned;
b) argyhoeddi busnesau bod mantais fasnachol o ran hyrwyddo hunaniaeth ddwyieithog;
c) sicrhau cydbwysedd a hyblygrwydd rhwng camau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol i gyflawni hyn, a chydnabod bod 99 y cant o fentrau Cymru yn fusnesau micro, bach, neu ganolig o ran maint;
d) nodi a darparu gwerth am arian drwy gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle yn hytrach na chyflwyno gofynion nad ydynt yn cyflawni hyn ac nad ydynt yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth gan siaradwyr Cymraeg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad drwy ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Cymraeg 2050.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad cyn diwedd 2019 ar effeithiolrwydd ei gwaith hyrwyddo presennol o'r Gymraeg i fusnesau, ar wahân i waith Comisiynydd y Gymraeg.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg i hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau micro, bach a chanolig eu maint.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg ymhellach o ran caniatau i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn perthynas â thorri eu hawliau iaith.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
33 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 2 – 6 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod tair elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef:
a) cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
b) cynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned;
c) darparu seilwaith cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol, a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd.
Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd a ganlyn:
a) cynyddu nifer y Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg;
b) symud o asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
c) lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg;
d) cyllido’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y sector prentisiaethau;
e) darparu bron £60 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog;
f) cyllido 14 Swyddog Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i ddarparu cyfieithiadau cryno;
Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel cenedl ddwyieithog agored.
Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
3 |
17 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a eu dad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7111 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r gefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad i uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth.
2. Yn cydnabod bod tair elfen i strategaeth Cymraeg 2050 a fydd yn ein helpu i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, sef:
a) cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r rhaglen Cymraeg i Blant / Cymraeg for Kids, y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gwell, a’r ymagwedd newydd tuag at addysgu Cymraeg drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;
b) cynyddu’r defnydd dyddiol o’r iaith mewn gweithleoedd, busnesau ac yn y gymuned;
c) darparu seilwaith cadarn ar gyfer pob cam gweithredu gan gynnwys technoleg, seilwaith ieithyddol, a sicrhau cefnogaeth y cyhoedd.
3. Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru, ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y meysydd a ganlyn:
a) cynyddu nifer y Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg;
b) symud o asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;
c) lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg;
d) cyllido’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y sector prentisiaethau;
e) darparu bron £60 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog;
f) cyllido 14 Swyddog Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i ddarparu cyfieithiadau cryno;
4. Yn dathlu bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel cenedl ddwyieithog agored.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
9 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.20
Dechreuodd yr eitem am 18.24
NDM7067 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Camau at Wleidyddiaeth Garedicach: Cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2019